Ble maen nhw nawr? Matthew Swain, peiriannydd seilwaith cronfeydd data

Cyhoeddwyd gyntaf: 6 Hydref 2016

Pan wnes i gais i’r coleg chweched dosbarth, doeddwn i ddim yn gwybod beth roeddwn i eisiau ei wneud. Roedd gen i ryw syniad niwlog efallai fy mod i eisiau gwneud meddygaeth, ond doeddwn i ddim yn siŵr. Roedd gen i wastad ddiddordeb mewn gwyddoniaeth, serch hynny, a dyna oedd fy mhwnc cryfaf yn yr ysgol, felly dewisais fioleg, cemeg a ffiseg, ynghyd â seicoleg (gan ei fod yn swnio’n ddiddorol). Ar ôl y flwyddyn gyntaf rhoddais y gorau i seicoleg, fy mhwnc gwannaf, a phenderfynu bwrw ymlaen a gwneud cais i astudio meddygaeth.

Pedwar cais ac un cyfweliad yn ddiweddarach, ches i ddim cynnig. Roeddwn i’n siomedig a doedd gen i ddim llawer o amser i benderfynu beth i’w wneud nesaf. Doedd gen i ddim cynlluniau ar gyfer blwyddyn allan ac roeddwn i eisiau mynd i’r brifysgol, felly trosglwyddais fy nghais yn Nottingham i astudio Biocemeg a Geneteg ac, yn ffodus, cafodd ei dderbyn. Doedd gen i ddim cynllun go iawn o hyd, ond roeddwn i’n meddwl bod swydd mewn labordy yn swnio’n well nag un mewn swyddfa. Roedd y brifysgol yn llawer o hwyl. Ces i amser gwych yn gymdeithasol ac roeddwn i wir yn mwynhau astudio geneteg yn arbennig (mae’n hynod ddiddorol!), ond erbyn i mi orffen, roedd fy awydd i weithio mewn labordy wedi pylu ac roeddwn i’n ôl i beidio â gwybod yn iawn beth roeddwn i eisiau ei wneud, felly gwnes i gais am lawer o swyddi.

Cymerodd ychydig o amser, ond ces i swydd fel “Ymchwilydd Gofal Iechyd” i gwmni bach a oedd yn casglu, trefnu a dadansoddi gwybodaeth gofal iechyd. Roedd pump o bobl yn y swyddfa, rhai a oedd yn gweithio o bell, a swyddfa fach ym Mwlgaria. Chwe mis yn ddiweddarach, ces i’r cyfle i ddechrau gwneud ychydig o ddadansoddi data gan ddefnyddio Excel a data gofal iechyd, gan ateb cwestiynau fel “faint o dderbyniadau brys ar gyfer diabetes oedd fesul person â diabetes mewn ardal benodol”, ac ati. Roedd yn llawer mwy diddorol a daeth gyda dyrchafiad bach – Dadansoddwr Gofal Iechyd!

Un diwrnod, wrth sgwrsio â datblygwr meddalwedd, sylweddolais y byddai gwybod SQL (iaith raglennu syml a ddefnyddir gyda chronfeydd data) yn fy ngalluogi i wneud mwy nag y gallwn gydag Excel. Dw i wastad wedi bod yn dipyn o geek cyfrifiaduron, felly prynais lyfr, ei ddarllen a mynd â rhai syniadau at fy rheolwr. Talodd ar ei ganfed, ac ychydig fisoedd yn ddiweddarach ces i fy secondio i gwmni meddalwedd i helpu gyda phrosiect i ddatblygu offeryn dadansoddi data ar gyfer cwmnïau fferyllol. Roeddwn i’n teimlo allan o’m dyfnder, ond roeddwn i wrth fy modd. Dysgais gymaint. Fisoedd yn ddiweddarach aethon ni i ymweld â chleient mawr i’w lansio, ac roedd dros 200 o ddefnyddwyr yn ei weld am y tro cyntaf. Roeddwn i’n falch iawn!

Ar ôl dwy flynedd a hanner, symudais i Leeds i ymuno â’r GIG fel Dadansoddwr Gwybodaeth. Roedd yn teimlo fel peth gwerth chweil i’w wneud ac roedd yn ddyrchafiad, yn gwneud gwaith dadansoddi tebyg. Yn anffodus, dysgais yn gyflym fod sefydliadau mawr yn wahanol iawn i rai bach, ac nid mewn ffordd roeddwn i’n ei hoffi. Doeddwn i ddim wedi gwerthfawrogi faint o ryddid roeddwn i wedi’i gael i wneud pethau yn fy ffordd fy hun, na faint o gyfle roeddwn i wedi’i gael i ddysgu gan uwch staff o’r blaen. Doedd hynny ddim yr un fath yn y GIG, felly i ffwrdd â mi i Lundain i ymuno â chwmni meddalwedd o’r enw Vista Entertainment.

Roedd Vista wedi’i leoli yn Seland Newydd ac yn gwerthu systemau tocynnau i sinemâu. Roedd tua 20 o bobl yn swyddfa Llundain, yn cefnogi cwsmeriaid yn Ewrop a’r Dwyrain Canol. Ymunais fel Ymgynghorydd Meddalwedd, a oedd yn golygu ymweld â sinemâu i osod systemau newydd, hyfforddi’r staff, ac ati. Yn fy ail wythnos es i i sinema yn yr Almaen i ddysgu gan un o’r bois yn fy nhîm, a’r wythnos wedyn es i ar fy mhen fy hun i un arall. Roedd yn wallgof, roeddwn i’n teimlo allan o’m dyfnder eto, ond roeddwn i wrth fy modd.

Arhosais yno am tua dwy flynedd a hanner, ces i ddyrchafiad, a pharhau i ddysgu am systemau TG a datblygu meddalwedd. Prynais fwy o werslyfrau ac astudiais fwy yn fy amser hamdden. Yn y pen draw symudais ymlaen i swydd fwy technegol, Peiriannydd DevOps, mewn cwmni meddalwedd bach arall. Daeth honno â mwy o gyfrifoldeb, gan fy mod i’n gofalu am systemau fel gwefannau theatrau, a oedd angen aros ar-lein i wneud arian. Parheais i ddysgu ac ar ôl tua blwyddyn symudais ymlaen i’m swydd bresennol, Peiriannydd Seilwaith Cronfeydd Data yn John Lewis.

Dal heb unrhyw gymwysterau TG, a dal heb gynllun, ond dw i’n hapus!

Matthew Swain, Peiriannydd Seilwaith Cronfeydd Data yn John Lewis.